Bae ar arfordir orllewinol Ynys Gybi yw Porth Dafarch, lle ceir traeth tywodlyd sy'n denu ymwelwyr. Fe'i lleolir ger Trearddur. Mae Llwybr Arfordirol Ynys Môn, sy'n rhan o Lwybr Arfordir Cymru, yn rhedeg trwy Borth Dafarch. Mae arfordir Porth Dafarch yn eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.