Traeth tywodlyd yn nhref Crosby, Glannau Merswy, Gogledd-orllewin Lloegr, ydy Traeth Crosby. Mae'n ymestyn am tua 2.5 milltir (4 km) ar hyd yr arfordir wrth ymyl y maestrefi Blundellsands, Brighton-le-Sands a Waterloo.
Er 2007 mae'r traeth wedi bod yn gartref parhaol i'r cerfluniau Another Place gan Antony Gormley – 100 o gerflyniau haearn o ddynion.